12 Gwae a adeilado dref trwy waed, ac a gadarnhao ddinas mewn anwiredd!
13 Wele, onid oddi wrth Arglwydd y lluoedd y mae, bod i'r bobl ymflino yn y tân, ac i'r cenhedloedd ymddiffygio am wir wagedd?
14 Canys y ddaear a lenwir o wybodaeth gogoniant yr Arglwydd, fel y toa y dyfroedd y môr.
15 Gwae a roddo ddiod i'w gymydog: yr hwn ydwyt yn rhoddi iddo dy gostrel, ac yn ei feddwi hefyd, er cael gweled eu noethni hwynt!
16 Llanwyd di o warth yn lle gogoniant; yf dithau hefyd, a noether dy flaengroen: ymchwel cwpan deheulaw yr Arglwydd atat ti, a chwydiad gwarthus fydd ar dy ogoniant.
17 Canys trais Libanus a'th orchuddia, ac anrhaith yr anifeiliaid, yr hwn a'u dychrynodd hwynt, o achos gwaed dynion, a thrais y tir, y ddinas ac oll a drigant ynddi.
18 Pa les a wna i'r ddelw gerfiedig, ddarfod i'w lluniwr ei cherfio; i'r ddelw dawdd, ac athro celwydd, fod lluniwr ei waith yn ymddiried ynddo, i wneuthur eilunod mudion?