7 Oni chyfyd yn ddisymwth y rhai a'th frathant, ac oni ddeffry y rhai a'th gystuddiant, a thi a fyddi yn wasarn iddynt?
8 Am i ti ysbeilio cenhedloedd lawer, holl weddill y bobloedd a'th ysbeilia dithau: am waed dynion, ac am y trais ar y tir, ar y ddinas, ac ar oll a drigant ynddi.
9 Gwae a elwo elw drwg i'w dŷ, i osod ei nyth yn uchel, i ddianc o law y drwg!
10 Cymeraist gyngor gwarthus i'th dŷ, wrth ddistrywio pobloedd lawer; pechaist yn erbyn dy enaid.
11 Oherwydd y garreg a lefa o'r mur, a'r trawst a'i hetyb o'r gwaith coed.
12 Gwae a adeilado dref trwy waed, ac a gadarnhao ddinas mewn anwiredd!
13 Wele, onid oddi wrth Arglwydd y lluoedd y mae, bod i'r bobl ymflino yn y tân, ac i'r cenhedloedd ymddiffygio am wir wagedd?