3 Yna y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd,
4 Ai amser yw i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedig, a'r tŷ hwn yn anghyfannedd?
5 Fel hyn gan hynny yn awr y dywed Arglwydd y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd.
6 Heuasoch lawer, a chludasoch ychydig; bwyta yr ydych, ond nid hyd ddigon; yfed, ac nid hyd fod yn ddiwall; ymwisgasoch, ac nid hyd glydwr i neb; a'r hwn a enillo gyflog, sydd yn casglu cyflog i god dyllog.
7 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd.
8 Esgynnwch i'r mynydd, a dygwch goed, ac adeiledwch y tŷ; mi a ymfodlonaf ynddo, ac y'm gogoneddir, medd yr Arglwydd.
9 Edrychasoch am lawer, ac wele, yr oedd yn ychydig; a phan ei dygasoch adref, chwythais arno. Am ba beth? medd Arglwydd y lluoedd. Am fy nhŷ i, yr hwn sydd yn anghyfannedd, a chwithau yn rhedeg bawb i'w dŷ ei hun.