6 Heuasoch lawer, a chludasoch ychydig; bwyta yr ydych, ond nid hyd ddigon; yfed, ac nid hyd fod yn ddiwall; ymwisgasoch, ac nid hyd glydwr i neb; a'r hwn a enillo gyflog, sydd yn casglu cyflog i god dyllog.
7 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd.
8 Esgynnwch i'r mynydd, a dygwch goed, ac adeiledwch y tŷ; mi a ymfodlonaf ynddo, ac y'm gogoneddir, medd yr Arglwydd.
9 Edrychasoch am lawer, ac wele, yr oedd yn ychydig; a phan ei dygasoch adref, chwythais arno. Am ba beth? medd Arglwydd y lluoedd. Am fy nhŷ i, yr hwn sydd yn anghyfannedd, a chwithau yn rhedeg bawb i'w dŷ ei hun.
10 Am hynny gwaharddwyd i'r nefoedd oddi arnoch wlitho, a gwaharddwyd i'r ddaear roddi ei ffrwyth.
11 Gelwais hefyd am sychder ar y ddaear, ac ar y mynyddoedd, ac ar yr ŷd ac ar y gwin, ac ar yr olew, ac ar yr hyn a ddwg y ddaear allan; ar ddyn hefyd, ac ar anifail, ac ar holl lafur dwylo.
12 Yna y gwrandawodd Sorobabel mab Salathiel, a Josua mab Josedec yr archoffeiriad, a holl weddill y bobl, ar lais yr Arglwydd eu Duw, ac ar eiriau Haggai y proffwyd, megis yr anfonasai eu Harglwydd Dduw hwynt ef; a'r bobl a ofnasant gerbron yr Arglwydd.