13 A Haggai a ddywedodd, Os un a fo aflan gan gorff marw a gyffwrdd â dim o'r rhai hyn, a fyddant hwy aflan? A'r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Byddant aflan.
14 Yna yr atebodd Haggai, ac a ddywedodd, Felly y mae y bobl hyn, ac felly y mae y genhedlaeth hon ger fy mron, medd yr Arglwydd; ac felly y mae holl waith eu dwylo, a'r hyn a aberthant yno, yn aflan.
15 Ac yr awr hon meddyliwch, atolwg, o'r diwrnod hwn allan a chynt, cyn gosod carreg ar garreg yn nheml yr Arglwydd;
16 Er pan oedd y dyddiau hynny pan ddelid at dwr o ugain llestraid, deg fyddai; pan ddelid at y gwinwryf i dynnu deg llestraid a deugain o'r cafn, ugain a fyddai yno.
17 Trewais chwi â diflaniad, ac â mallter, ac â chenllysg, yn holl waith eich dwylo; a chwithau ni throesoch ataf fi, medd yr Arglwydd.
18 Ystyriwch yr awr hon o'r dydd hwn ac er cynt, o'r pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, ac ystyriwch o'r dydd y sylfaenwyd teml yr Arglwydd.
19 A yw yr had eto yn yr ysgubor? y winwydden hefyd, y ffigysbren, a'r pomgranad, a'r pren olewydd, ni ffrwythasant: o'r dydd hwn allan y bendithiaf chwi.