15 Ac yr awr hon meddyliwch, atolwg, o'r diwrnod hwn allan a chynt, cyn gosod carreg ar garreg yn nheml yr Arglwydd;
16 Er pan oedd y dyddiau hynny pan ddelid at dwr o ugain llestraid, deg fyddai; pan ddelid at y gwinwryf i dynnu deg llestraid a deugain o'r cafn, ugain a fyddai yno.
17 Trewais chwi â diflaniad, ac â mallter, ac â chenllysg, yn holl waith eich dwylo; a chwithau ni throesoch ataf fi, medd yr Arglwydd.
18 Ystyriwch yr awr hon o'r dydd hwn ac er cynt, o'r pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, ac ystyriwch o'r dydd y sylfaenwyd teml yr Arglwydd.
19 A yw yr had eto yn yr ysgubor? y winwydden hefyd, y ffigysbren, a'r pomgranad, a'r pren olewydd, ni ffrwythasant: o'r dydd hwn allan y bendithiaf chwi.
20 A gair yr Arglwydd a ddaeth eilwaith at Haggai, ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r mis, gan ddywedyd,
21 Llefara wrth Sorobabel tywysog Jwda, gan ddywedyd, Myfi a ysgydwaf y nefoedd a'r ddaear;