17 Trewais chwi â diflaniad, ac â mallter, ac â chenllysg, yn holl waith eich dwylo; a chwithau ni throesoch ataf fi, medd yr Arglwydd.
18 Ystyriwch yr awr hon o'r dydd hwn ac er cynt, o'r pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, ac ystyriwch o'r dydd y sylfaenwyd teml yr Arglwydd.
19 A yw yr had eto yn yr ysgubor? y winwydden hefyd, y ffigysbren, a'r pomgranad, a'r pren olewydd, ni ffrwythasant: o'r dydd hwn allan y bendithiaf chwi.
20 A gair yr Arglwydd a ddaeth eilwaith at Haggai, ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r mis, gan ddywedyd,
21 Llefara wrth Sorobabel tywysog Jwda, gan ddywedyd, Myfi a ysgydwaf y nefoedd a'r ddaear;
22 A mi a ymchwelaf deyrngadair teyrnasoedd, ac a ddinistriaf gryfder breniniaethau y cenhedloedd; ymchwelaf hefyd y cerbydau, a'r rhai a eisteddant ynddynt; a'r meirch a'u marchogion a syrthiant, bob un gan gleddyf ei frawd.
23 Y diwrnod hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, y'th gymeraf di, fy ngwas Sorobabel, mab Salathiel, medd yr Arglwydd, ac y'th wnaf fel sêl: canys mi a'th ddewisais di, medd Arglwydd y lluoedd.