2 Dywed yn awr wrth Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac wrth Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac wrth weddill y bobl, gan ddywedyd,
3 Pwy yn eich plith a adawyd, yr hwn a welodd y tŷ hwn yn ei ogoniant cyntaf? a pha fodd y gwelwch chwi ef yr awr hon? onid yw wrth hwnnw yn eich golwg fel peth heb ddim?
4 Eto yn awr ymgryfha, Sorobabel, medd yr Arglwydd; ac ymgryfha, Josua mab Josedec yr archoffeiriad; ac ymgryfhewch, holl bobl y tir, medd yr Arglwydd, a gweithiwch: canys yr ydwyf fi gyda chwi, medd Arglwydd y lluoedd:
5 Yn ôl y gair a amodais â chwi pan ddaethoch allan o'r Aifft, felly yr erys fy ysbryd yn eich mysg: nac ofnwch.
6 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Unwaith eto, ennyd fechan yw, a mi a ysgydwaf y nefoedd, a'r ddaear, a'r môr, a'r sychdir;
7 Ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd, a dymuniant yr holl genhedloedd a ddaw: llanwaf hefyd y tŷ hwn â gogoniant, medd Arglwydd y lluoedd.
8 Eiddof fi yr arian, ac eiddof fi yr aur, medd Arglwydd y lluoedd.