4 Eto yn awr ymgryfha, Sorobabel, medd yr Arglwydd; ac ymgryfha, Josua mab Josedec yr archoffeiriad; ac ymgryfhewch, holl bobl y tir, medd yr Arglwydd, a gweithiwch: canys yr ydwyf fi gyda chwi, medd Arglwydd y lluoedd:
5 Yn ôl y gair a amodais â chwi pan ddaethoch allan o'r Aifft, felly yr erys fy ysbryd yn eich mysg: nac ofnwch.
6 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Unwaith eto, ennyd fechan yw, a mi a ysgydwaf y nefoedd, a'r ddaear, a'r môr, a'r sychdir;
7 Ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd, a dymuniant yr holl genhedloedd a ddaw: llanwaf hefyd y tŷ hwn â gogoniant, medd Arglwydd y lluoedd.
8 Eiddof fi yr arian, ac eiddof fi yr aur, medd Arglwydd y lluoedd.
9 Bydd mwy gogoniant y tŷ diwethaf hwn na'r cyntaf, medd Arglwydd y lluoedd: ac yn y lle hwn y rhoddaf dangnefedd, medd Arglwydd y lluoedd.
10 Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, yn yr ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd,