9 Bydd mwy gogoniant y tŷ diwethaf hwn na'r cyntaf, medd Arglwydd y lluoedd: ac yn y lle hwn y rhoddaf dangnefedd, medd Arglwydd y lluoedd.
10 Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, yn yr ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd,
11 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Gofyn yr awr hon i'r offeiriaid y gyfraith, gan ddywedyd,
12 Os dwg un gig sanctaidd yng nghwr ei wisg, ac â'i gwr a gyffwrdd â'r bara, neu â'r cawl, neu â'r gwin, neu â'r olew, neu â dim o'r bwyd, a fyddant hwy sanctaidd? A'r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Na fyddant.
13 A Haggai a ddywedodd, Os un a fo aflan gan gorff marw a gyffwrdd â dim o'r rhai hyn, a fyddant hwy aflan? A'r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Byddant aflan.
14 Yna yr atebodd Haggai, ac a ddywedodd, Felly y mae y bobl hyn, ac felly y mae y genhedlaeth hon ger fy mron, medd yr Arglwydd; ac felly y mae holl waith eu dwylo, a'r hyn a aberthant yno, yn aflan.
15 Ac yr awr hon meddyliwch, atolwg, o'r diwrnod hwn allan a chynt, cyn gosod carreg ar garreg yn nheml yr Arglwydd;