2 Yr hwn y daeth gair yr Arglwydd ato, yn nyddiau Joseia mab Amon brenin Jwda, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o'i deyrnasiad ef.
3 Ac fe ddaeth yn nyddiau Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, nes darfod un flynedd ar ddeg i Sedeceia mab Joseia brenin Jwda, hyd ddygiad Jerwsalem i gaethiwed yn y pumed mis.
4 Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
5 Cyn i mi dy lunio di yn y groth, mi a'th adnabûm; a chyn dy ddyfod o'r groth, y sancteiddiais di; a mi a'th roddais yn broffwyd i'r cenhedloedd.
6 Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, wele, ni fedraf ymadrodd; canys bachgen ydwyf fi.
7 Ond yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Na ddywed, Bachgen ydwyf fi: canys ti a ei at y rhai oll y'th anfonwyf, a'r hyn oll a orchmynnwyf i ti a ddywedi.
8 Nac ofna rhag eu hwynebau hwynt: canys yr ydwyf fi gyda thi i'th waredu, medd yr Arglwydd.