7 Ond yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Na ddywed, Bachgen ydwyf fi: canys ti a ei at y rhai oll y'th anfonwyf, a'r hyn oll a orchmynnwyf i ti a ddywedi.
8 Nac ofna rhag eu hwynebau hwynt: canys yr ydwyf fi gyda thi i'th waredu, medd yr Arglwydd.
9 Yna yr estynnodd yr Arglwydd ei law, ac a gyffyrddodd â'm genau. A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau di.
10 Gwêl, heddiw y'th osodais ar y cenhedloedd, ac ar y teyrnasoedd, i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, i ddifetha, ac i ddistrywio, i adeiladu, ac i blannu.
11 Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Jeremeia, beth a weli di? Minnau a ddywedais, Gwialen almon a welaf fi.
12 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Da y gwelaist; canys mi a brysuraf fy ngair i'w gyflawni.
13 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf yr ail waith, gan ddywedyd, Beth a weli di? A mi a ddywedais, Mi a welaf grochan berwedig, a'i wyneb tua'r gogledd.