6 Yn gymaint ag nad oes neb fel tydi, Arglwydd: mawr wyt, a mawr yw dy enw mewn cadernid.
7 Pwy ni'th ofna di, Brenin y cenhedloedd? canys i ti y gweddai: oherwydd ymysg holl ddoethion y cenhedloedd, ac ymysg eu holl deyrnasoedd hwy, nid oes neb fel tydi.
8 Eithr cydynfydasant ac amhwyllasant: athrawiaeth oferedd yw cyff.
9 Arian wedi ei yrru yn ddalennau a ddygir o Tarsis, ac aur o Uffas, gwaith y celfydd, a dwylo'r toddydd: sidan glas a phorffor yw eu gwisg hwy; gwaith y celfydd ŷnt oll.
10 Eithr yr Arglwydd ydyw y gwir Dduw, efe yw y Duw byw, a'r Brenin tragwyddol: rhag ei lid ef y cryna y ddaear, a'r cenhedloedd ni allant ddioddef ei soriant ef.
11 Fel hyn y dywedwch wrthynt; Y duwiau ni wnaethant y nefoedd a'r ddaear, difethir hwynt o'r ddaear, ac oddi tan y nefoedd.
12 Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth, efe a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a estynnodd y nefoedd trwy ei synnwyr.