1 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd,
2 Gwrandewch eiriau y cyfamod hwn, a dywedwch wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem;
3 Dywed hefyd wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel: Melltigedig fyddo y gŵr ni wrendy ar eiriau y cyfamod hwn,
4 Yr hwn a orchmynnais i'ch tadau chwi y dydd y dygais hwynt o wlad yr Aifft, o'r ffwrn haearn, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llef, a gwnewch hwynt, yn ôl yr hyn oll a orchmynnwyf i chwi: felly chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw i chwithau:
5 Fel y gallwyf gwblhau y llw a dyngais wrth eich tadau, ar roddi iddynt dir yn llifeirio o laeth a mêl, megis y mae heddiw. Yna yr atebais, ac y dywedais, O Arglwydd, felly y byddo.