9 Yr hon a blantodd saith, a lesgaodd: ei henaid hi a lesmeiriodd, ei haul a fachludodd tra yr oedd hi yn ddydd; hi a gywilyddiodd, ac a waradwyddwyd; a rhoddaf y gweddillion ohonynt i'r cleddyf yng ngŵydd eu gelynion, medd yr Arglwydd.
10 Gwae fi, fy mam, ymddŵyn ohonot fi yn ŵr ymryson ac yn ŵr cynnen i'r holl ddaear! ni logais, ac ni logwyd i mi; eto pawb ohonynt sydd yn fy melltithio i.
11 Yr Arglwydd a ddywedodd, Yn ddiau bydd dy weddill di mewn daioni; yn ddiau gwnaf i'r gelyn fod yn dda wrthyt, yn amser adfyd ac yn amser cystudd.
12 A dyr haearn yr haearn o'r gogledd, a'r dur?
13 Dy gyfoeth a'th drysorau a roddaf yn ysbail, nid am werth, ond oblegid dy holl bechodau, trwy dy holl derfynau.
14 Gwnaf i ti fyned hefyd gyda'th elynion i dir nid adwaenost: canys tân a enynnodd yn fy nigofaint, arnoch y llysg.
15 Ti a wyddost, Arglwydd; cofia fi, ac ymwêl â mi, a dial drosof ar fy erlidwyr; na ddwg fi ymaith yn dy hirymaros: gwybydd ddwyn ohonof waradwydd er dy fwyn di.