11 Yna y dywedi wrthynt, Oherwydd i'ch tadau fy ngadael i, medd yr Arglwydd, a myned ar ôl duwiau dieithr, a'u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt, a'm gwrthod i, a bod heb gadw fy nghyfraith;
12 A chwithau a wnaethoch yn waeth na'ch tadau, canys wele chwi yn rhodio bob un yn ôl cyndynrwydd ei galon ddrwg, heb wrando arnaf;
13 Am hynny mi a'ch taflaf chwi o'r tir hwn, i wlad nid adwaenoch chwi na'ch tadau; ac yno y gwasanaethwch dduwiau dieithr ddydd a nos, lle ni ddangosaf i chwi ffafr.
14 Gan hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pryd na ddywedir mwyach, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o dir yr Aifft:
15 Eithr, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug i fyny feibion Israel o dir y gogledd, ac o'r holl diroedd lle y gyrasai efe hwynt: a mi a'u dygaf hwynt drachefn i'w gwlad a roddais i'w tadau.
16 Wele fi yn anfon am bysgodwyr lawer, medd yr Arglwydd, a hwy a'u pysgotant hwy; ac wedi hynny mi a anfonaf am helwyr lawer, a hwy a'u heliant hwynt oddi ar bob mynydd, ac oddi ar bob bryn, ac o ogofeydd y creigiau.
17 Canys y mae fy ngolwg ar eu holl ffyrdd hwynt: nid ydynt guddiedig o'm gŵydd i, ac nid yw eu hanwiredd hwynt guddiedig oddi ar gyfer fy llygaid.