5 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Na ddos i dŷ y galar, ac na ddos i alaru, ac na chwyna iddynt: canys myfi a gymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn, medd yr Arglwydd, sef trugaredd a thosturi.
6 A byddant feirw yn y wlad hon, fawr a bychan: ni chleddir hwynt, ac ni alerir amdanynt; nid ymdorrir ac nid ymfoelir drostynt.
7 Ni rannant iddynt fwyd mewn galar, i roi cysur iddynt am y marw; ac ni pharant iddynt yfed o ffiol cysur, am eu tad, neu am eu mam.
8 Na ddos i dŷ gwledd, i eistedd gyda hwynt i fwyta ac i yfed.
9 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, myfi a baraf i lais cerdd a llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, ddarfod o'r lle hwn, o flaen eich llygaid, ac yn eich dyddiau chwi.
10 A phan ddangosech i'r bobl yma yr holl eiriau hyn, ac iddynt hwythau ddywedyd wrthyt, Am ba beth y llefarodd yr Arglwydd yr holl fawr ddrwg hyn i'n herbyn ni? neu, Pa beth yw ein hanwiredd? neu, Beth yw ein pechod a bechasom yn erbyn yr Arglwydd ein Duw?
11 Yna y dywedi wrthynt, Oherwydd i'ch tadau fy ngadael i, medd yr Arglwydd, a myned ar ôl duwiau dieithr, a'u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt, a'm gwrthod i, a bod heb gadw fy nghyfraith;