3 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Beth a weli di, Jeremeia? A mi a ddywedais, Ffigys: y ffigys da, yn dda iawn; a'r rhai drwg, yn ddrwg iawn, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced.
4 Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, Fel y ffigys da hyn, felly y cydnabyddaf fi gaethglud Jwda, y rhai a anfonais o'r lle hwn i wlad y Caldeaid er daioni.
6 Canys mi a osodaf fy ngolwg arnynt er daioni, ac a'u dygaf drachefn i'r wlad hon, ac a'u hadeiladaf hwynt, ac ni thynnaf i lawr; plannaf hefyd hwynt, ac nis diwreiddiaf.
7 Rhoddaf hefyd iddynt galon i'm hadnabod, mai yr Arglwydd ydwyf fi: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw iddynt hwy: canys hwy a droant ataf fi â'u holl galon.
8 Ac fel y ffigys drwg, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced, (diau fel hyn y dywed yr Arglwydd,) felly y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a'i benaethiaid, a gweddill Jerwsalem, y rhai a weddillwyd yn y wlad hon, a'r rhai sydd yn trigo yn nhir yr Aifft:
9 Ie, rhoddaf hwynt i'w symud i holl deyrnasoedd y ddaear, er drwg iddynt, i fod yn waradwydd ac yn ddihareb, yn watwargerdd ac yn felltith, ym mhob man lle y gyrrwyf hwynt.