1 Hwy a ddywedant, O gyr gŵr ei wraig ymaith, a myned ohoni oddi wrtho ef, ac iddi fod yn eiddo gŵr arall, a ddychwel efe ati hi mwyach? oni lwyr halogir y tir hwnnw? ond ti a buteiniaist gyda chyfeillion lawer; eto dychwel ataf fi, medd yr Arglwydd.
2 Dyrchafa dy lygaid i'r lleoedd uchel, ac edrych pa le ni phuteiniaist. Ti a eisteddaist ar y ffyrdd iddynt hwy, megis Arabiad yn yr anialwch; ac a halogaist y tir â'th buteindra, ac â'th ddrygioni.
3 Am hynny yr ataliwyd y cafodydd, ac ni bu glaw diweddar; a thalcen puteinwraig oedd i ti; gwrthodaist gywilyddio.
4 Oni lefi di arnaf fi o hyn allan, Fy nhad, ti yw tywysog fy ieuenctid?
5 A ddeil efe ei ddig byth? a'i ceidw yn dragywydd? Wele, dywedaist a gwnaethost yr hyn oedd ddrwg hyd y gellaist.