15 Ac a roddaf i chwi fugeiliaid wrth fodd fy nghalon, y rhai a'ch porthant chwi â gwybodaeth, ac â deall.
16 Ac wedi darfod i chwi amlhau a chynyddu ar y ddaear, yn y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, ni ddywedant mwy, Arch cyfamod yr Arglwydd; ac ni feddwl calon amdani, ac ni chofir hi; nid ymwelant â hi chwaith, ac ni wneir hynny mwy.
17 Yn yr amser hwnnw y galwant Jerwsalem yn orseddfa yr Arglwydd; ac y cesglir ati yr holl genhedloedd, at enw yr Arglwydd, i Jerwsalem: ac ni rodiant mwy yn ôl cildynrwydd eu calon ddrygionus.
18 Yn y dyddiau hynny y rhodia tŷ Jwda gyda thŷ Israel, a hwy a ddeuant ynghyd, o dir y gogledd, i'r tir a roddais i yn etifeddiaeth i'ch tadau chwi.
19 Ond mi a ddywedais, Pa fodd y'th osodaf ymhlith y plant, ac y rhoddaf i ti dir dymunol, sef etifeddiaeth ardderchog lluoedd y cenhedloedd? ac a ddywedais, Ti a elwi arnaf fi, Fy nhad, ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl i.
20 Yn ddiau fel yr anffyddlona gwraig oddi wrth ei chyfaill; felly, tŷ Israel, y buoch anffyddlon i mi, medd yr Arglwydd.
21 Llef a glywyd yn y mannau uchel, wylofain a dymuniadau meibion Israel: canys gwyrasant eu ffordd, ac anghofiasant yr Arglwydd eu Duw.