5 A ddeil efe ei ddig byth? a'i ceidw yn dragywydd? Wele, dywedaist a gwnaethost yr hyn oedd ddrwg hyd y gellaist.
6 A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf yn amser Joseia y brenin, A welaist ti hyn a wnaeth Israel wrthnysig? Hi a aeth i bob mynydd uchel, a than bob pren deiliog, ac a buteiniodd yno.
7 A mi a ddywedais, wedi iddi wneuthur hyn i gyd, Dychwel ataf fi. Ond ni ddychwelodd. A Jwda ei chwaer anffyddlon hi a welodd hynny.
8 A gwelais yn dda, am yr achosion oll y puteiniodd Israel wrthnysig, ollwng ohonof hi ymaith, ac a roddais iddi ei llythyr ysgar: er hyn ni ofnodd Jwda ei chwaer anffyddlon; eithr aeth a phuteiniodd hithau hefyd.
9 A chan ysgafnder ei phuteindra yr halogodd hi y tir; canys gyda'r maen a'r pren y puteiniodd hi.
10 Ac er hyn oll hefyd ni ddychwelodd Jwda ei chwaer anffyddlon ataf fi â'i holl galon, eithr mewn rhagrith, medd yr Arglwydd.
11 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Israel wrthnysig a'i cyfiawnhaodd ei hun rhagor Jwda anffyddlon.