9 A chan ysgafnder ei phuteindra yr halogodd hi y tir; canys gyda'r maen a'r pren y puteiniodd hi.
10 Ac er hyn oll hefyd ni ddychwelodd Jwda ei chwaer anffyddlon ataf fi â'i holl galon, eithr mewn rhagrith, medd yr Arglwydd.
11 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Israel wrthnysig a'i cyfiawnhaodd ei hun rhagor Jwda anffyddlon.
12 Cerdda, a chyhoedda y geiriau hyn tua'r gogledd, a dywed, Ti Israel wrthnysig, dychwel, medd yr Arglwydd, ac ni adawaf i'm llid syrthio arnoch: canys trugarog ydwyf fi, medd yr Arglwydd, ni ddaliaf lid yn dragywydd.
13 Yn unig cydnebydd dy anwiredd, droseddu ohonot yn erbyn yr Arglwydd dy Dduw, a gwasgaru ohonot dy ffyrdd i ddieithriaid dan bob pren deiliog, ac ni wrandawech ar fy llef, medd yr Arglwydd.
14 Trowch, chwi blant gwrthnysig, medd yr Arglwydd; canys myfi a'ch priodais chwi: a mi a'ch cymeraf chwi, un o ddinas, a dau o deulu, ac a'ch dygaf chwi i Seion:
15 Ac a roddaf i chwi fugeiliaid wrth fodd fy nghalon, y rhai a'ch porthant chwi â gwybodaeth, ac â deall.