5 Ti a blenni eto winllannoedd ym mynyddoedd Samaria: y planwyr a blannant, ac a'u mwynhânt yn gyffredin.
6 Canys daw y dydd y llefa y gwylwyr ym mynydd Effraim, Codwch, ac awn i fyny i Seion at yr Arglwydd ein Duw.
7 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Cenwch orfoledd i Jacob, a chrechwenwch ymhlith rhai pennaf y cenhedloedd: cyhoeddwch, molwch, a dywedwch, O Arglwydd, cadw dy bobl, gweddill Israel.
8 Wele, mi a'u harweiniaf hwynt o dir y gogledd, ac a'u casglaf hwynt o ystlysau y ddaear, y dall a'r cloff, y feichiog a'r hon sydd yn esgor, ar unwaith gyda hwynt: cynulleidfa fawr a ddychwelant yma.
9 Mewn wylofain y deuant, ac mewn tosturiaethau y dygaf hwynt: gwnaf iddynt rodio wrth ffrydiau dyfroedd mewn ffordd union yr hon ni thripiant ynddi: oblegid myfi sydd dad i Israel, ac Effraim yw fy nghyntaf‐anedig.
10 Gwrandewch air yr Arglwydd, O genhedloedd, a mynegwch yn yr ynysoedd o bell, a dywedwch, Yr hwn a wasgarodd Israel, a'i casgl ef, ac a'i ceidw fel bugail ei braidd.
11 Oherwydd yr Arglwydd a waredodd Jacob, ac a'i hachubodd ef o law yr hwn oedd drech nag ef.