12 A mi a roddais lyfr y pryniad at Baruch mab Nereia, mab Maaseia, yng ngŵydd Hanameel mab fy ewythr, ac yng ngŵydd y tystion a ysgrifenasent lyfr y prynedigaeth, yng ngŵydd yr holl Iddewon oedd yn eistedd yng nghyntedd y carchardy.
13 A mi a orchmynnais i Baruch yn eu gŵydd hwynt, gan ddywedyd,
14 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Cymer y llyfrau hyn, sef y llyfr hwn o'r pryniad yr hwn sydd seliedig, a'r llyfr agored hwn, a dod hwynt mewn llestr pridd, fel y parhaont ddyddiau lawer.
15 Oherwydd fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Tai, a meysydd, a gwinllannoedd, a feddiennir eto yn y wlad hon.
16 Ac wedi i mi roddi llyfr y pryniad at Baruch mab Nereia, myfi a weddïais ar yr Arglwydd, gan ddywedyd,
17 O Arglwydd Dduw, wele, ti a wnaethost y nefoedd a'r ddaear, â'th fawr allu ac â'th fraich estynedig; nid oes dim rhy anodd i ti.
18 Yr wyt yn gwneuthur trugaredd i filoedd, ac yn talu anwireddau y tadau i fynwes eu meibion ar eu hôl hwynt: y Duw mawr, cadarn, Arglwydd y lluoedd yw ei enw;