1 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, yn nyddiau Jehoiacim mab Joseia brenhin Jwda, gan ddywedyd,
2 Dos di i dŷ y Rechabiaid, a llefara wrthynt, a phâr iddynt ddyfod i dŷ yr Arglwydd, i un o'r ystafelloedd, a dod iddynt win i'w yfed.
3 Yna myfi a gymerais Jaasaneia, mab Jeremeia, mab Habasineia, a'i frodyr, a'i holl feibion, a holl deulu y Rechabiaid;
4 A mi a'u dygais hwynt i dŷ yr Arglwydd, i ystafell meibion Hanan mab Igdaleia, gŵr i Dduw, yr hon oedd wrth ystafell y tywysogion, yr hon sydd goruwch ystafell Maaseia mab Salum, ceidwad y drws.
5 A mi a roddais gerbron meibion tŷ y Rechabiaid ffiolau yn llawn o win, a chwpanau, a mi a ddywedais wrthynt, Yfwch win.
6 Ond hwy a ddywedasant, Nid yfwn ni ddim gwin: oherwydd Jonadab mab Rechab ein tad a roddodd i ni orchymyn, gan ddywedyd, Nac yfwch win, na chwychwi na'ch plant, yn dragywydd: