16 Gan i feibion Jonadab mab Rechab gyflawni gorchymyn eu tad, yr hwn a orchmynnodd efe iddynt; ond y bobl yma ni wrandawsant arnaf fi:
17 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Duw Israel; Wele fi yn dwyn ar Jwda, ac ar holl drigolion Jerwsalem, yr holl ddrwg a leferais yn eu herbyn: oherwydd i mi ddywedyd wrthynt, ond ni wrandawsant; a galw arnynt, ond nid atebasant.
18 A Jeremeia a ddywedodd wrth dylwyth y Rechabiaid, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, Oherwydd i chwi wrando ar orchymyn Jonadab eich tad, a chadw ei holl orchmynion ef, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd efe i chwi:
19 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Ni phalla i Jonadab mab Rechab ŵr i sefyll ger fy mron i yn dragywydd.