9 Ac nad adeiladem i ni dai i'w preswylio; ac nid oes gennym na gwinllan, na maes, na had:
10 Eithr trigo a wnaethom mewn pebyll, a gwrando, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd Jonadab ein tad i ni.
11 Ond pan ddaeth Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny i'r wlad, nyni a ddywedasom, Deuwch, ac awn i Jerwsalem, rhag llu y Caldeaid, a rhag llu yr Asyriaid: ac yn Jerwsalem yr ydym ni yn preswylio.
12 Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia, gan ddywedyd,
13 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Dos, a dywed wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem, Oni chymerwch chwi addysg i wrando ar fy ngeiriau? medd yr Arglwydd.
14 Geiriau Jonadab mab Rechab, y rhai a orchmynnodd efe i'w feibion, nad yfent win, a gyflawnwyd: canys nid yfant hwy win hyd y dydd hwn; ond hwy a wrandawant ar orchymyn eu tad: a minnau a ddywedais wrthych chwi, gan godi yn fore, a llefaru; ond ni wrandawsoch arnaf.
15 Myfi a anfonais hefyd atoch chwi fy holl weision y proffwydi, gan godi yn fore, ac anfon, gan ddywedyd, Dychwelwch yn awr bawb oddi wrth ei ffordd ddrwg, a gwellhewch eich gweithredoedd, ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr, i'w gwasanaethu hwynt; a chwi a drigwch yn y wlad yr hon a roddais i chwi ac i'ch tadau: ond ni ogwyddasoch eich clustiau, ac ni wrandawsoch arnaf.