12 Yna efe a aeth i waered i dŷ y brenin i ystafell yr ysgrifennydd: ac wele, yr holl dywysogion oedd yno yn eistedd; sef Elisama yr ysgrifennydd, a Delaia mab Semaia, ac Elnathan mab Achbor, a Gemareia mab Saffan, a Sedeceia mab Hananeia, a'r holl dywysogion.
13 A Michaia a fynegodd iddynt yr holl eiriau a glywsai efe pan ddarllenasai Baruch y llyfr lle y clybu y bobl.
14 Yna yr holl dywysogion a anfonasant Jehudi mab Nethaneia, mab Selemeia, mab Cusi, at Baruch, gan ddywedyd, Cymer yn dy law y llyfr y darllenaist allan ohono lle y clybu y bobl, a thyred. Felly Baruch mab Nereia a gymerodd y llyfr yn ei law, ac a ddaeth atynt.
15 A hwy a ddywedasant wrtho, Eistedd yn awr, a darllen ef lle y clywom ni. Felly Baruch a'i darllenodd lle y clywsant hwy.
16 A phan glywsant yr holl eiriau, hwy a ofnasant bawb gyda'i gilydd; a hwy a ddywedasant wrth Baruch, Gan fynegi mynegwn yr holl eiriau hyn i'r brenin.
17 A hwy a ofynasant i Baruch, gan ddywedyd, Mynega i ni yn awr, Pa fodd yr ysgrifennaist ti yr holl eiriau hyn o'i enau ef?
18 Yna Baruch a ddywedodd wrthynt, Efe a draethodd yr holl eiriau hyn wrthyf fi â'i enau, a minnau a'u hysgrifennais hwynt yn y llyfr ag inc.