14 Yna yr holl dywysogion a anfonasant Jehudi mab Nethaneia, mab Selemeia, mab Cusi, at Baruch, gan ddywedyd, Cymer yn dy law y llyfr y darllenaist allan ohono lle y clybu y bobl, a thyred. Felly Baruch mab Nereia a gymerodd y llyfr yn ei law, ac a ddaeth atynt.
15 A hwy a ddywedasant wrtho, Eistedd yn awr, a darllen ef lle y clywom ni. Felly Baruch a'i darllenodd lle y clywsant hwy.
16 A phan glywsant yr holl eiriau, hwy a ofnasant bawb gyda'i gilydd; a hwy a ddywedasant wrth Baruch, Gan fynegi mynegwn yr holl eiriau hyn i'r brenin.
17 A hwy a ofynasant i Baruch, gan ddywedyd, Mynega i ni yn awr, Pa fodd yr ysgrifennaist ti yr holl eiriau hyn o'i enau ef?
18 Yna Baruch a ddywedodd wrthynt, Efe a draethodd yr holl eiriau hyn wrthyf fi â'i enau, a minnau a'u hysgrifennais hwynt yn y llyfr ag inc.
19 Yna y tywysogion a ddywedasant wrth Baruch, Dos ac ymguddia, ti a Jeremeia; ac na wyped neb pa le y byddoch chwi.
20 A hwy a aethant at y brenin i'r cyntedd, (ond hwy a gadwasant y llyfr yn ystafell Elisama yr ysgrifennydd,) ac a fynegasant yr holl eiriau lle y clybu y brenin.