16 A phan glywsant yr holl eiriau, hwy a ofnasant bawb gyda'i gilydd; a hwy a ddywedasant wrth Baruch, Gan fynegi mynegwn yr holl eiriau hyn i'r brenin.
17 A hwy a ofynasant i Baruch, gan ddywedyd, Mynega i ni yn awr, Pa fodd yr ysgrifennaist ti yr holl eiriau hyn o'i enau ef?
18 Yna Baruch a ddywedodd wrthynt, Efe a draethodd yr holl eiriau hyn wrthyf fi â'i enau, a minnau a'u hysgrifennais hwynt yn y llyfr ag inc.
19 Yna y tywysogion a ddywedasant wrth Baruch, Dos ac ymguddia, ti a Jeremeia; ac na wyped neb pa le y byddoch chwi.
20 A hwy a aethant at y brenin i'r cyntedd, (ond hwy a gadwasant y llyfr yn ystafell Elisama yr ysgrifennydd,) ac a fynegasant yr holl eiriau lle y clybu y brenin.
21 A'r brenin a anfonodd Jehudi i gyrchu y llyfr. Ac efe a'i dug ef o ystafell Elisama yr ysgrifennydd. A Jehudi a'i darllenodd lle y clybu y brenin, a lle y clybu yr holl dywysogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin.
22 A'r brenin oedd yn eistedd yn y gaeafdy, yn y nawfed mis; a thân wedi ei gynnau ger ei fron.