2 Cymer i ti blyg llyfr, ac ysgrifenna ynddo yr holl eiriau a leferais i wrthyt yn erbyn Israel, ac yn erbyn Jwda, ac yn erbyn yr holl genhedloedd, o'r dydd y lleferais i wrthyt ti, er dyddiau Joseia hyd y dydd hwn.
3 Fe allai pan glywo tŷ Jwda yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn amcanu ei wneuthur iddynt, y dychwelant bob un o'i ffordd ddrygionus, fel y maddeuwyf eu hanwiredd a'u pechod.
4 Yna Jeremeia a alwodd Baruch mab Nereia; a Baruch a ysgrifennodd o enau Jeremeia holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a lefarasai efe wrtho, mewn plyg llyfr.
5 A Jeremeia a orchmynnodd i Baruch, gan ddywedyd, Caewyd arnaf fi, ni allaf fi fyned i dŷ yr Arglwydd.
6 Am hynny dos di, a darllen o'r llyfr a ysgrifennaist o'm genau, eiriau yr Arglwydd, lle y clywo y bobl, yn nhŷ yr Arglwydd, ar y dydd ympryd; a lle y clywo holl Jwda hefyd, y rhai a ddelont o'u dinasoedd, y darlleni di hwynt.
7 Fe allai y daw eu gweddi hwynt gerbron yr Arglwydd, ac y dychwelant bob un o'i ffordd ddrygionus: canys mawr yw y llid a'r digofaint a draethodd yr Arglwydd yn erbyn y bobl hyn.
8 Felly Baruch mab Nereia a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jeremeia y proffwyd iddo, gan ddarllen o'r llyfr eiriau yr Arglwydd yn nhŷ yr Arglwydd.