22 A'r brenin oedd yn eistedd yn y gaeafdy, yn y nawfed mis; a thân wedi ei gynnau ger ei fron.
23 A phan ddarllenasai Jehudi dair dalen neu bedair, yna efe a'i torrodd â chyllell ysgrifennydd, ac a'i bwriodd i'r tân oedd yn yr aelwyd, nes darfod o'r holl lyfr gan y tân oedd ar yr aelwyd.
24 Eto nid ofnasant, ac ni rwygasant eu dillad, na'r brenin, nac yr un o'i weision y rhai a glywsant yr holl eiriau hyn.
25 Eto Elnathan, a Delaia, a Gemareia, a ymbiliasant â'r brenin na losgai efe y llyfr; ond ni wrandawai efe arnynt.
26 Ond y brenin a orchmynnodd i Jerahmeel mab Hammelech, a Seraia mab Asriel, a Selemeia mab Abdiel, ddala Baruch yr ysgrifennydd, a Jeremeia y proffwyd: ond yr Arglwydd a'u cuddiodd hwynt.
27 Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia, (wedi i'r brenin losgi y llyfr, a'r geiriau a ysgrifenasai Baruch o enau Jeremeia,) gan ddywedyd,
28 Cymer i ti eto lyfr arall, ac ysgrifenna arno yr holl eiriau cyntaf y rhai oedd yn y llyfr cyntaf, yr hwn a losgodd Jehoiacim brenin Jwda: