5 A Jeremeia a orchmynnodd i Baruch, gan ddywedyd, Caewyd arnaf fi, ni allaf fi fyned i dŷ yr Arglwydd.
6 Am hynny dos di, a darllen o'r llyfr a ysgrifennaist o'm genau, eiriau yr Arglwydd, lle y clywo y bobl, yn nhŷ yr Arglwydd, ar y dydd ympryd; a lle y clywo holl Jwda hefyd, y rhai a ddelont o'u dinasoedd, y darlleni di hwynt.
7 Fe allai y daw eu gweddi hwynt gerbron yr Arglwydd, ac y dychwelant bob un o'i ffordd ddrygionus: canys mawr yw y llid a'r digofaint a draethodd yr Arglwydd yn erbyn y bobl hyn.
8 Felly Baruch mab Nereia a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jeremeia y proffwyd iddo, gan ddarllen o'r llyfr eiriau yr Arglwydd yn nhŷ yr Arglwydd.
9 Ac yn y bumed flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, ar y nawfed mis, y cyhoeddasant ympryd gerbron yr Arglwydd, i'r holl bobl yn Jerwsalem, ac i'r holl bobl a ddaethent o ddinasoedd Jwda i Jerwsalem.
10 Yna Baruch a ddarllenodd o'r llyfr eiriau Jeremeia, yn nhŷ yr Arglwydd, yn ystafell Gemareia mab Saffan yr ysgrifennydd, yn y cyntedd uchaf, wrth ddrws porth newydd tŷ yr Arglwydd, lle y clybu yr holl bobl.
11 Pan glybu Michaia mab Gemareia, mab Saffan, holl eiriau yr Arglwydd allan o'r llyfr,