15 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia, pan oedd efe wedi cau arno yng nghyntedd y carchar, gan ddywedyd,
16 Dos, a dywed i Ebedmelech yr Ethiopiad, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, mi a baraf i'm geiriau ddyfod yn erbyn y ddinas hon er niwed, ac nid er lles, a hwy a gwblheir o flaen dy wyneb y dwthwn hwnnw.
17 Ond myfi a'th waredaf di y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, ac ni'th roddir yn llaw y dynion yr ydwyt ti yn ofni rhagddynt.
18 Canys gan achub mi a'th achubaf, ac ni syrthi trwy y cleddyf, eithr bydd dy einioes yn ysglyfaeth i ti, am i ti ymddiried ynof fi, medd yr Arglwydd.