9 Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd i Babilon weddill y bobl y rhai a adawsid yn y ddinas, a'r encilwyr y rhai a giliasent ato ef, ynghyd â gweddill y bobl y rhai a adawsid.
10 A Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd o dlodion y bobl, y rhai nid oedd dim ganddynt, yng ngwlad Jwda, ac efe a roddodd iddynt winllannoedd a meysydd y pryd hwnnw.
11 A Nebuchodonosor brenin Babilon a roddodd orchymyn am Jeremeia i Nebusaradan pennaeth y milwyr, gan ddywedyd,
12 Cymer ef, a bwrw olwg arno, ac na wna iddo ddim niwed; ond megis y dywedo efe wrthyt ti, felly gwna iddo.
13 Felly Nebusaradan pennaeth y milwyr a anfonodd, Nebusasban hefyd, Rabsaris, a Nergal‐sareser, Rabmag, a holl benaethiaid brenin Babilon;
14 Ie, hwy a anfonasant, ac a gymerasant Jeremeia o gyntedd y carchardy, ac a'i rhoddasant ef at Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan, i'w ddwyn adref: felly efe a drigodd ymysg y bobl.
15 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia, pan oedd efe wedi cau arno yng nghyntedd y carchar, gan ddywedyd,