13 Johanan hefyd mab Carea, a holl dywysogion y lluoedd y rhai oedd ar hyd y wlad, a ddaethant at Gedaleia i Mispa,
14 Ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti yn hysbys i Baalis, brenin meibion Ammon, anfon Ismael mab Nethaneia i'th ladd di? Ond ni chredodd Gedaleia mab Ahicam iddynt hwy.
15 Yna Johanan mab Carea a ddywedodd wrth Gedaleia ym Mispa yn gyfrinachol, gan ddywedyd, Gad i mi fyned, atolwg, a mi a laddaf Ismael mab Nethaneia, ac ni chaiff neb wybod: paham y lladdai efe di, fel y gwasgerid yr holl Iddewon y rhai a ymgasglasant atat ti, ac y darfyddai am y gweddill yn Jwda?
16 Ond Gedaleia mab Ahicam a ddywedodd wrth Johanan mab Carea, Na wna y peth hyn: canys celwydd yr ydwyt ti yn ei ddywedyd am Ismael.