7 A phan glybu holl dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ar hyd y wlad, hwynt‐hwy a'u gwŷr, i frenin Babilon osod Gedaleia mab Ahicam ar y wlad, ac iddo roddi dan ei law ef wŷr, a gwragedd, a phlant, ac o dlodion y wlad, o'r rhai ni chaethgludasid i Babilon;
8 Yna hwy a ddaethant at Gedaleia i Mispa, sef Ismael mab Nethaneia, a Johanan a Jonathan meibion Carea, a Seraia mab Tanhumeth, a meibion Effai y Netoffathiad, a Jesaneia mab Maachathiad, hwynt‐hwy a'u gwŷr.
9 A Gedaleia mab Ahicam mab Saffan a dyngodd wrthynt hwy, ac wrth eu gwŷr, gan ddywedyd, Nac ofnwch wasanaethu y Caldeaid: trigwch yn y wlad, a gwasanaethwch frenin Babilon, felly y bydd daioni i chwi.
10 Amdanaf finnau, wele, mi a drigaf ym Mispa, i wasanaethu y Caldeaid, y rhai a ddeuant atom ni: chwithau, cesglwch win, a ffrwythydd haf, ac olew, a dodwch hwynt yn eich llestri, a thrigwch yn eich dinasoedd, y rhai yr ydych yn eu meddiannu.
11 A phan glybu yr holl Iddewon y rhai oedd ym Moab, ac ymysg meibion Ammon, ac yn Edom, ac yn yr holl wledydd, i frenin Babilon adael gweddill o Jwda, a gosod Gedaleia mab Ahicam mab Saffan yn llywydd arnynt hwy;
12 Yna yr holl Iddewon a ddychwelasant o'r holl leoedd lle y gyrasid hwynt, ac a ddaethant i wlad Jwda at Gedaleia i Mispa, ac a gasglasant win o ffrwythydd haf lawer iawn.
13 Johanan hefyd mab Carea, a holl dywysogion y lluoedd y rhai oedd ar hyd y wlad, a ddaethant at Gedaleia i Mispa,