4 Ond ni wrandawodd Johanan mab Carea, na holl dywysogion y llu, na'r holl bobl, ar lais yr Arglwydd, i drigo yn nhir Jwda:
5 Eithr Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu, a ddygasant ymaith holl weddill Jwda, y rhai a ddychwelasant oddi wrth yr holl genhedloedd lle y gyrasid hwynt, i aros yng ngwlad Jwda;
6 Yn wŷr, a gwragedd, a phlant, a merched y brenin, a phob enaid a'r a adawsai Nebusaradan pennaeth y milwyr gyda Gedaleia mab Ahicam mab Saffan, y proffwyd Jeremeia hefyd, a Baruch mab Nereia.
7 Felly hwy a ddaethant i wlad yr Aifft: canys ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd; fel hyn y daethant i Tapanhes.
8 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia yn Tapanhes, gan ddywedyd,
9 Cymer yn dy law gerrig mawrion, a chuddia hwynt yn y clai yn yr odyn briddfaen, yr hon sydd yn nrws tŷ Pharo, yn Tapanhes, yng ngolwg gwŷr Jwda;
10 A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, mi a anfonaf, ac a gymeraf Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, ac a osodaf ei frenhinfainc ef ar y cerrig hyn y rhai a guddiais, ac efe a daena ei frenhinol babell arnynt.