6 Yn wŷr, a gwragedd, a phlant, a merched y brenin, a phob enaid a'r a adawsai Nebusaradan pennaeth y milwyr gyda Gedaleia mab Ahicam mab Saffan, y proffwyd Jeremeia hefyd, a Baruch mab Nereia.
7 Felly hwy a ddaethant i wlad yr Aifft: canys ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd; fel hyn y daethant i Tapanhes.
8 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia yn Tapanhes, gan ddywedyd,
9 Cymer yn dy law gerrig mawrion, a chuddia hwynt yn y clai yn yr odyn briddfaen, yr hon sydd yn nrws tŷ Pharo, yn Tapanhes, yng ngolwg gwŷr Jwda;
10 A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, mi a anfonaf, ac a gymeraf Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, ac a osodaf ei frenhinfainc ef ar y cerrig hyn y rhai a guddiais, ac efe a daena ei frenhinol babell arnynt.
11 A phan ddelo, efe a dery wlad yr Aifft; y rhai sydd i angau, ag angau; a'r rhai sydd i gaethiwed, â chaethiwed; a'r rhai sydd i'r cleddyf, â'r cleddyf.
12 A mi a gyneuaf dân yn nhai duwiau yr Aifft, ac efe a'u llysg hwynt, ac a'u caethgluda hwynt; ac efe a ymwisg â gwlad yr Aifft fel y gwisg bugail ei ddillad: ac efe a â allan oddi yno mewn heddwch.