1 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia, am yr holl Iddewon y rhai oedd yn trigo yng ngwlad yr Aifft, ac yn preswylio ym Migdol, ac yn Tapanhes, ac yn Noff, ac yng ngwlad Pathros, gan ddywedyd,
2 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Chwi a welsoch yr holl ddrwg a ddygais i ar Jerwsalem, ac ar holl ddinasoedd Jwda; ac wele hwy heddiw yn anghyfannedd, ac heb breswylydd ynddynt:
3 O achos eu drygioni yr hwn a wnaethant i'm digio i, gan fyned i arogldarthu, ac i wasanaethu duwiau dieithr, y rhai nid adwaenent, na hwy, na chwithau, na'ch tadau.
4 Er i mi anfon atoch fy holl weision y proffwydi, gan foregodi, ac anfon, i ddywedyd, Na wnewch, atolwg, y ffieiddbeth hyn, yr hwn sydd gas gennyf fi:
5 Eto ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust, i ddychwelyd oddi wrth eu drygioni, fel nad arogldarthent i dduwiau dieithr.