16 Am y gair a leferaist ti wrthym ni yn enw yr Arglwydd, ni wrandawn ni arnat.
17 Ond gan wneuthur y gwnawn ni bob peth a'r a ddelo allan o'n genau, gan arogldarthu i frenhines y nefoedd, a thywallt iddi hi ddiodydd‐offrwm, megis y gwnaethom, nyni a'n tadau, ein brenhinoedd a'n tywysogion, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem: canys yna yr oeddem ni yn ddigonol o fara, ac yn dda, ac heb weled drwg.
18 Ond er pan beidiasom ag arogldarthu i frenhines y nefoedd, ac â thywallt diod‐offrwm iddi hi, bu arnom eisiau pob dim: trwy gleddyf hefyd a thrwy newyn y darfuom ni.
19 A phan oeddem ni yn arogldarthu i frenhines y nefoedd, ac yn tywallt diod‐offrwm iddi; ai heb ein gwŷr y gwnaethom ni iddi hi deisennau i'w haddoli hi, ac y tywalltasom ddiod‐offrwm iddi?
20 Yna Jeremeia a ddywedodd wrth yr holl bobl, wrth y gwŷr, ac wrth y gwragedd, ac wrth yr holl bobl a'i hatebasant ef felly, gan ddywedyd,
21 Oni chofiodd yr Arglwydd yr arogldarth a arogldarthasoch chwi yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, chwychwi a'ch tadau, eich brenhinoedd a'ch tywysogion, a phobl y wlad? ac oni ddaeth yn ei feddwl ef?
22 Fel na allai yr Arglwydd gyd‐ddwyn yn hwy, o achos drygioni eich gweithredoedd, a chan y ffiaidd bethau a wnaethech: am hynny yr aeth eich tir yn anghyfannedd, ac yn syndod, ac yn felltith, heb breswylydd, megis y gwelir y dydd hwn.