Jeremeia 44:19-25 BWM

19 A phan oeddem ni yn arogldarthu i frenhines y nefoedd, ac yn tywallt diod‐offrwm iddi; ai heb ein gwŷr y gwnaethom ni iddi hi deisennau i'w haddoli hi, ac y tywalltasom ddiod‐offrwm iddi?

20 Yna Jeremeia a ddywedodd wrth yr holl bobl, wrth y gwŷr, ac wrth y gwragedd, ac wrth yr holl bobl a'i hatebasant ef felly, gan ddywedyd,

21 Oni chofiodd yr Arglwydd yr arogldarth a arogldarthasoch chwi yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, chwychwi a'ch tadau, eich brenhinoedd a'ch tywysogion, a phobl y wlad? ac oni ddaeth yn ei feddwl ef?

22 Fel na allai yr Arglwydd gyd‐ddwyn yn hwy, o achos drygioni eich gweithredoedd, a chan y ffiaidd bethau a wnaethech: am hynny yr aeth eich tir yn anghyfannedd, ac yn syndod, ac yn felltith, heb breswylydd, megis y gwelir y dydd hwn.

23 Oherwydd i chwi arogldarthu, ac am i chwi bechu yn erbyn yr Arglwydd, ac na wrandawsoch ar lais yr Arglwydd, ac na rodiasoch yn ei gyfraith ef, nac yn ei ddeddfau, nac yn ei dystiolaethau; am hynny y digwyddodd i chwi yr aflwydd hwn fel y gwelir heddiw.

24 A Jeremeia a ddywedodd wrth yr holl bobl, ac wrth yr holl wragedd, Gwrandewch air yr Arglwydd, holl Jwda y rhai ydych yng ngwlad yr Aifft.

25 Fel hyn y llefarodd Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, Chwychwi a'ch gwragedd a lefarasoch â'ch genau, ac a gyflawnasoch â'ch dwylo, gan ddywedyd, Gan dalu ni a dalwn ein haddunedau y rhai a addunasom, am arogldarthu i frenhines y nefoedd, ac am dywallt diod‐offrwm iddi; llwyr y cwblhewch eich addunedau, a llwyr y telwch yr hyn a addunedasoch.