3 Teclwch y darian a'r astalch, a nesewch i ryfel.
4 Cenglwch y meirch, ac ewch arnynt, farchogion; sefwch yn eich helmau, gloywch y gwaywffyn, gwisgwch y llurigau.
5 Paham y gwelais hwynt yn ddychrynedig, wedi cilio yn eu hôl, a'u cedyrn wedi eu curo i lawr, a ffoi ar ffrwst, ac heb edrych yn eu hôl? dychryn sydd o amgylch, medd yr Arglwydd.
6 Na chaed y buan ffoi, na'r cadarn ddianc; tua'r gogledd, gerllaw afon Ewffrates, y tripiant, ac y syrthiant.
7 Pwy yw hwn sydd yn ymgodi fel afon, a'i ddyfroedd yn dygyfor fel yr afonydd?
8 Yr Aifft sydd fel afon yn ymgodi, a'i dyfroedd sydd yn dygyfor fel yr afonydd: a hi a ddywed, Mi a af i fyny, ac a orchuddiaf y ddaear; myfi a ddifethaf y ddinas, a'r rhai sydd yn trigo ynddi.
9 O feirch, deuwch i fyny; a chwithau gerbydau, ymgynddeiriogwch; a deuwch allan y cedyrn; yr Ethiopiaid, a'r Libiaid, y rhai sydd yn dwyn tarian; a'r Lydiaid, y rhai sydd yn teimlo ac yn anelu bwa.