12 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele, y rhai nid oedd eu barn i yfed o'r ffiol, gan yfed a yfasant, ac a ddihengi di yn ddigerydd? na ddihengi; eithr tithau a yfi yn sicr.
13 Canys i mi fy hun y tyngais, medd yr Arglwydd, mai yn anghyfannedd, yn warth, yn anialwch, ac yn felltith, y bydd Bosra; a'i holl ddinasoedd yn ddiffeithwch tragwyddol.
14 Myfi a glywais chwedl oddi wrth yr Arglwydd, bod cennad wedi ei anfon at y cenhedloedd, yn dywedyd, Ymgesglwch, a deuwch yn ei herbyn hi, a chyfodwch i'r rhyfel.
15 Oherwydd wele, myfi a'th wnaf di yn fychan ymysg y cenhedloedd, ac yn wael ymhlith dynion.
16 Dy erwindeb a'th dwyllodd, a balchder dy galon, ti yr hon ydwyt yn aros yng nghromlechydd y graig, ac yn meddiannu uchelder y bryn: er i ti osod dy nyth cyn uched â'r eryr, myfi a wnaf i ti ddisgyn oddi yno, medd yr Arglwydd.
17 Edom hefyd a fydd yn anghyfannedd: pawb a'r a elo heibio iddi a synna, ac a chwibana am ei holl ddialeddau hi.
18 Fel yn ninistr Sodom a Gomorra, a'i chymdogesau, medd yr Arglwydd; ni phreswylia neb yno, ac nid erys mab dyn ynddi.