24 Damascus a lesgaodd, ac a ymdrŷ i ffoi, ond dychryn a'i goddiweddodd hi; gwasgfa a phoenau a'i daliodd hi fel gwraig yn esgor.
25 Pa fodd na adewir dinas moliant, caer fy llawenydd?
26 Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd, a'r holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd.
27 A mi a gyneuaf dân ym mur Damascus, ac efe a ddifa lysoedd Benhadad.
28 Am Cedar, ac am deyrnasoedd Hasor, y rhai a ddinistria Nebuchodonosor brenin Babilon, fel hyn y dywed yr Arglwydd; Cyfodwch, ewch i fyny yn erbyn Cedar, ac anrheithiwch feibion y dwyrain.
29 Eu lluestai a'u diadellau a gymerant ymaith; eu llenni, a'u holl lestri, a'u camelod, a gymerant iddynt eu hunain; a hwy a floeddiant arnynt, Y mae ofn o amgylch.
30 Ffowch, ciliwch ymhell, ewch yn isel i drigo, preswylwyr Hasor, medd yr Arglwydd: oherwydd Nebuchodonosor brenin Babilon a gymerodd gyngor yn eich erbyn chwi, ac a fwriadodd fwriad yn eich erbyn chwi.