26 Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd, a'r holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd.
27 A mi a gyneuaf dân ym mur Damascus, ac efe a ddifa lysoedd Benhadad.
28 Am Cedar, ac am deyrnasoedd Hasor, y rhai a ddinistria Nebuchodonosor brenin Babilon, fel hyn y dywed yr Arglwydd; Cyfodwch, ewch i fyny yn erbyn Cedar, ac anrheithiwch feibion y dwyrain.
29 Eu lluestai a'u diadellau a gymerant ymaith; eu llenni, a'u holl lestri, a'u camelod, a gymerant iddynt eu hunain; a hwy a floeddiant arnynt, Y mae ofn o amgylch.
30 Ffowch, ciliwch ymhell, ewch yn isel i drigo, preswylwyr Hasor, medd yr Arglwydd: oherwydd Nebuchodonosor brenin Babilon a gymerodd gyngor yn eich erbyn chwi, ac a fwriadodd fwriad yn eich erbyn chwi.
31 Cyfodwch, ac ewch i fyny at y genedl oludog, yr hon sydd yn trigo yn ddiofal, medd yr Arglwydd, heb ddorau na barrau iddi; wrthynt eu hunain y maent yn trigo.
32 A'u camelod a fydd yn anrhaith, a'u minteioedd anifeiliaid yn ysbail, a mi a wasgaraf tua phob gwynt y rhai sydd yn y conglau eithaf; a myfi a ddygaf o bob ystlys iddi eu dinistr hwynt, medd yr Arglwydd.