30 Ffowch, ciliwch ymhell, ewch yn isel i drigo, preswylwyr Hasor, medd yr Arglwydd: oherwydd Nebuchodonosor brenin Babilon a gymerodd gyngor yn eich erbyn chwi, ac a fwriadodd fwriad yn eich erbyn chwi.
31 Cyfodwch, ac ewch i fyny at y genedl oludog, yr hon sydd yn trigo yn ddiofal, medd yr Arglwydd, heb ddorau na barrau iddi; wrthynt eu hunain y maent yn trigo.
32 A'u camelod a fydd yn anrhaith, a'u minteioedd anifeiliaid yn ysbail, a mi a wasgaraf tua phob gwynt y rhai sydd yn y conglau eithaf; a myfi a ddygaf o bob ystlys iddi eu dinistr hwynt, medd yr Arglwydd.
33 Hasor hefyd fydd yn drigfa dreigiau, ac yn anghyfannedd byth: ni phreswylia neb yno, ac nid erys mab dyn ynddi.
34 Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn Elam, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda, gan ddywedyd,
35 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd: Wele fi yn torri bwa Elam, eu cadernid pennaf hwynt.
36 A mi a ddygaf ar Elam bedwar gwynt o bedwar eithaf y nefoedd, a mi a'u gwasgaraf hwynt tua'r holl wyntoedd hyn; ac ni bydd cenedl at yr hon ni ddelo rhai o grwydraid Elam.