6 Ac wedi hynny myfi a ddychwelaf gaethiwed meibion Ammon, medd yr Arglwydd.
7 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd am Edom; Onid oes doethineb mwy yn Teman? a fethodd cyngor gan y rhai deallgar? a fethodd eu doethineb hwynt?
8 Ffowch, trowch eich cefnau, ewch yn isel i drigo, preswylwyr Dedan: canys mi a ddygaf ddinistr Esau arno, amser ei ofwy.
9 Pe delai cynaeafwyr gwin atat ti, oni weddillent hwy loffion grawn? pe lladron liw nos, hwy a anrheithient nes cael digon.
10 Ond myfi a ddinoethais Esau, ac a ddatguddiais ei lochesau ef, fel na allo lechu: ei had ef a ddifethwyd, a'i frodyr a'i gymdogion, ac nid yw efe.
11 Gad dy amddifaid, myfi a'u cadwaf hwynt yn fyw; ac ymddirieded dy weddwon ynof fi.
12 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele, y rhai nid oedd eu barn i yfed o'r ffiol, gan yfed a yfasant, ac a ddihengi di yn ddigerydd? na ddihengi; eithr tithau a yfi yn sicr.