1 Rhedwch yma a thraw ar hyd heolydd Jerwsalem, ac edrychwch yr awr hon, mynnwch wybod hefyd, a cheisiwch yn ei heolydd hi, o chewch ŵr, a oes a wnêl farn, a gais wirionedd, a myfi a'i harbedaf hi.
2 Ac er dywedyd ohonynt, Byw yw yr Arglwydd, eto yn gelwyddog y tyngant.
3 O Arglwydd, onid ar y gwirionedd y mae dy lygaid di? ti a'u trewaist hwynt, ac nid ymofidiasant; difeaist hwynt, eithr gwrthodasant dderbyn cerydd: hwy a wnaethant eu hwynebau yn galetach na chraig, gwrthodasant ddychwelyd.
4 A mi a ddywedais, Yn sicr tlodion ydyw y rhai hyn, ynfydion ydynt: canys nid adwaenant ffordd yr Arglwydd, na barn eu Duw.
5 Mi a af rhagof at y gwŷr mawr, ac a ymddiddanaf â hwynt; canys hwy a wybuant ffordd yr Arglwydd, a barn eu Duw: eithr y rhai hyn a gyd‐dorasant yr iau, ac a ddrylliasant y rhwymau.
6 Oblegid hyn llew o'r coed a'u tery hwy, blaidd o'r anialwch a'u distrywia hwy, llewpard a wylia ar eu dinasoedd hwy: pawb a'r a ddêl allan ohonynt a rwygir: canys eu camweddau a amlhasant, eu gwrthdrofeydd a chwanegasant.
7 Pa fodd y'th arbedwn am hyn? dy blant a'm gadawsant i, ac a dyngasant i'r rhai nid ydynt dduwiau: a phan ddiwellais hwynt, gwnaethant odineb, ac a heidiasant i dŷ y butain.