16 Torrwch ymaith yr heuwr o Babilon, a'r hwn a ddalio gryman ar amser cynhaeaf: rhag cleddyf y gorthrymwr y troant bob un at ei bobl ei hun, ac y ffoant bob un i'w wlad.
17 Fel dafad ar wasgar yw Israel; llewod a'i hymlidiasant ymaith: brenin Asyria yn gyntaf a'i hysodd, a'r Nebuchodonosor yma brenin Babilon yn olaf a'i diesgyrnodd.
18 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, myfi a ymwelaf â brenin Babilon, ac â'i wlad, fel yr ymwelais â brenin Asyria.
19 A mi a ddychwelaf Israel i'w drigfa, ac efe a bawr ar Carmel a Basan; ac ar fynydd Effraim a Gilead y digonir ei enaid ef.
20 Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr Arglwydd, y ceisir anwiredd Israel, ac ni bydd; a phechodau Jwda, ond nis ceir hwynt: canys myfi a faddeuaf i'r rhai a weddillwyf.
21 Dos i fyny yn erbyn gwlad Merathaim, ie, yn ei herbyn hi, ac yn erbyn trigolion Pecod: anrheithia di a difroda ar eu hôl hwynt, medd yr Arglwydd, a gwna yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti.
22 Trwst rhyfel sydd yn y wlad, a dinistr mawr.